Casgliad o lyfrau prin i aros yng Nghymru

Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau dyfodol casgliad mawr o lyfrau Cymreig prin, trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Caerdydd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cafodd tua 14,000 o lyfrau prin a hynafol o’r 15fed ganrif i’r 20fed ganrif eu cyflwyno, prynu neu eu hetifeddu gan lyfrgell gyhoeddus Caerdydd yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.

Roedd ofnau y byddai’r casgliad yn mynd ar chwâl pan gyhoeddwyd y byddant yn cael eu gwerthu’n gyhoeddus, gan eu bod yn fwy gwerthfawr gyda’i gilydd. Mae cyfres swmpus o gyfrolau Shakespeare o’r 17eg ganrif, er enghraifft, yn brin iawn, ac mae’n ymddangos bod y casgliad o ddramâu adferiad yn gwbl unigryw fel set mor lawn.

Bydd y casgliad yn cael ei gadw yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol (SCOLAR), yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol. Ar ôl gwaith cadwraeth, bydd y llyfrau ar gael i aelodau’r cyhoedd, ac ymhen amser, bydd fersiynau digidol o rai o’r eitemau mwyaf diddorol ar gael ar-lein.

Mae’r casgliad hwn o bwys academaidd a hanesyddol aruthrol, ac yn cynnwys 175 o incwnabwla (y llyfrau print cynharaf o tua 1500), tua 500 o Feiblau prin, detholiad cynhwysfawr o gyfrolau dramâu Adferiad a Chwarto, cynnyrch gweisg Prydeinig preifat o’r 19eg a’r 20fed ganrif a chasgliad prin o weithiau cynnar Shakespeare.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan SCOLAR.

Cefnogi ymchwilwyr Caerdydd

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleusterau i helpu ymchwilwyr y Brifysgol, er mwyn iddynt gyflawni eu hamcanion ymchwil yn haws.

Mae gwasanaethau TG, Llyfrgell a Graffeg yr Isadran yn cynnig cymorth achlysurol hefyd, ac yn galluogi ymchwilwyr Caerdydd i wneud gwaith ymchwil o safon a dylanwad byd-eang. Dyma rai o’r mentrau sy’n arbennig o berthnasol i ymchwilwyr:

Bibliometreg
Gall data bibliometreg – data am gyhoeddiadau, gan gynnwys dyfyniadau a ffactorau effaith – gael ei gynnwys er mwyn asesu rhai meysydd yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) arfaethedig. Gall gynnig gwybodaeth ddefnyddiol i gymharu safle a phroffil gwaith ymchwil yng Nghaerdydd. Trwy sicrhau bod mwy o waith ymchwil ar gael, a rhagor o fynediad i’r testun llawn (trwy gyfleusterau fel storfa gyhoeddiadau Caerdydd, ORCA), gall gynyddu’r cyfeiriadau at waith ymchwil, a dangos ei ‘ddylanwad’ posibl hefyd. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn galluogi ymchwilwyr i ddefnyddio data biobliometreg sydd ar gael o gronfeydd data fel Web of Science a Scopus, sydd yn eu tro, yn helpu Prifysgol Caerdydd i ddeall beth yw effaith cyhoeddiadau mewn gwahanol feysydd yn well, yn ogystal â helpu pobl i wneud gwaith ar y cyd â gwaith rhyngddisgyblaeth.

ORCA – Online Research @ Cardiff
ORCA yw gwasanaeth cadwrfa mynediad agored y Brifysgol, sydd â’r nod o sicrhau bod gwaith ymchwil gan awduron Caerdydd ar gael yn fwy eang a hwylus ar y we. Pan fydd ganddo wybodaeth am bob cyhoeddiad ers 2008, bydd ORCA yn helpu i gasglu cyhoeddiadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil arfaethedig, a bydd yn helpu i sicrhau bod gwaith ymchwil y Brifysgol yn fwy amlwg, yn cael mwy o ddylanwad ac yn cael ei ddyfynu’n amlach.

I-WIRE - Integrated Workflow for Institutional Repository Enhancement
Nod I-WIRE, prosiect wedi’i noddi gan JISC, yw ei gwneud hi’n haws ac yn fwy effeithiol i reoli cyhoeddiadau ymchwil Caerdydd. Erbyn cwblhau’r gwaith ym mis Mawrth 2011, bydd y prosiect wedi datblygu llif gwaith gwell a dull electronig (wedi’i integreiddio i’r Amgylchedd Gwaith TG Modern y Brifysgol) er mwyn ei gwneud hi’n haws i gyflwyno cyhoeddiadau ymchwil Caerdydd i system ORCA, y gellir eu hailddefnyddio wedyn mewn proffilau ymchwilwyr, CVs ac ati.

ARCCA – Cyfrifiaduraeth Ymchwil Uwch @ Caerdydd
Mae ARCCA fel chwaer-sefydliad i INSRV, ac yn cefnogi gwaith ymchwil seiliedig ar gyfrifiannu yng Nghaerdydd. Mae’r ganolfan yn cefnogi gwaith ymchwil ledled sawl maes, gan gynnwys pynciau mathemategol a chyfrifiannu traddodiadol, ond yn gynyddol mewn meysydd biofeddygol, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Mae ARCCA eisoes wedi cyfrannu at 175 o ganlyniadau ymchwil gwahanol flwyddyn ar ôl ei lansio, gan gynnwys cyhoeddiadau mewn cylchgronau, trafodion cynadleddau, darlithoedd a chyflwyniadau, cyflwyniadau poster a phrosiectau ymchwil.

I weld sut mae ARCCA yn helpu i wireddu gwaith ymchwil a oedd yn unwaith yn amhosibl, ewch i'r gwefan ARCCA.

Dim ond sampl fach o’r cymorth y mae Gwasanaethau Gwybodaeth ac ARCCA yn ei ddatblygu i ymchwilwyr Caerdydd yw hon. Am fwy o wybodaeth am hyn a gwasanaethau cymorth ymchwil eraill, ewch i’r adran ‘For Researchers’ ein gwefan.

Astudiaeth genedlaethol i dreialu storfa ddata werdd

Mae pawb eisiau gwneud ein rhan i greu byd mwy ‘gwyrdd’. Mae sicrhau bod TG yn gynaliadwy a lleihau ei effaith amgylcheddol yn her gyfarwydd i golegau Addysg Bellach ac Uwch. Mae INSRV yn chwarae’i ran trwy dreialu prosiect newydd wedi’i ariannu gan JISC (Cyngor Systemau Gwybodaeth ar y Cyd).

Mae angen storio mwy a mwy o ddata’r Brifysgol, a bydd ein prosiect peilot ‘Planet Filestore’ yn ymchwilio i’r modd y gallwn ni barhau i ateb y galw yn fwy cynaliadwy, trwy ddefnyddio system storio data sy’n defnyddio ynni’n fwy effeithlon ac sydd angen llai o le ffisegol.

Nod y prosiect yw defnyddio system sy’n nodi’n awtomatig pa ffeiliau sy’n cael eu defnyddio’n llai aml, cyn eu symud i storfeydd mwy ‘gwyrdd’. Bydd y rhain yn defnyddio llai o drydan ac yn cynnwys llai o rannau segur na disgiau confensiynol, gan arbed ynni ac adnoddau felly.

Bydd y prosiect peilot yn ymchwilio i ffyrdd o ddefnyddio’r storfa fwy effeithlon hon heb golli fawr ddim o’r gwasanaeth, oherwydd bydd y data yn parhau ar gael i ddefnyddwyr yn ddi-oed.

Meddai Paul Rock, Arweinydd y Prosiect a Phrif Beiriannydd Ymgynghorol Gwasanaethau Gwybodaeth: "Yn ogystal â chynnig cyfle gwych i’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Phrifysgol Caerdydd, rydym yn gobeithio y bydd hyn o fudd i’r holl sector Addysg Uwch, gan gyflwyno gwersi eang a phrawf pendant o beth ellir ei gyflawni gyda thechnoleg fwy cynaliadwy.”

I wybod mwy, ewch i’n gwefannau 'Planet Filestore', neu darllenwch y blog.

Am fwy o wybodaeth am raglen ‘Greening ICT’ a ‘Planet Filestore’ ewch i wefan JISC.

E-lolfa newydd Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol

Mae’r gwaith o adnewyddu Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol bellach wedi’i gwblhau.

Gwnaed gwelliannau sylweddol i loriau uchaf ac isaf y llyfrgell, a gafodd arian gan Sefydliad Wolfson.

Gosodwyd silffoedd symudol lliwiau’r enfys ar y llawr uchaf, er mwyn creu lle ymchwil ac astudio gwell, a’i gwneud hi’n haws i ddefnyddio a dod o hyd i eitemau.

Gwnaed y newidiadau mwyaf diweddar i lawr isaf y Llyfrgell sydd bellach wedi’i ailenwi’n Llawr Wolfson, er mwyn creu lle mwy anffurfiol i gydweithio.

Mae’r e-lolfa newydd yn cynnwys 16 o gyfrifiaduron personol ar y rhwydwaith, 3 ystafell astudio i grwpiau, a soffas a seddi cyfforddus ar gyfer cysylltu â’r rhwydwaith di-wifr sydd ar gael ar y llawr cyfan. Mae croeso i ddefnyddwyr fwyta, yfed a defnyddio ffonau poced ar y llawr hwn - yn wahanol i weddill y Llyfrgell - ac felly mae’n cynnig lle cymdeithasol i fyfyrwyr weithio gyda’i gilydd os ydynt yn dymuno.

Mae hynt a helynt y prosiect wedi’i gofnodi ar flog ASSL.

Diogelu’r Brifysgol

Oeddech chi’n gwybod fod y Brifysgol wedi derbyn 55 miliwn o negeseuon sbam yn ystod mis Chwefror?

Yn ogystal â bod yn boen i ddefnyddwyr, mae sbam yn cynyddu’r perygl i negeseuon e-bost gwe-rwydo gyrraedd cyfrifon defnyddwyr ac amharu ar systemau e-bost y Brifysgol – os na chaiff ei olrhain a’i atal mewn da bryd.

Mae llwythi o negeseuon sbam yn boddi’r system - mae’r 55 miliwn o negeseuon sbam a dderbyniodd y Brifysgol ym mis Chwefror yn gyfystyr â 96% o’r holl negeseuon a dderbyniwyd yn ystod y mis hwnnw. Cafodd y negeseuon hyn eu gwrthod cyn eu danfon ymlaen, oherwydd eu bod yn deillio o safleoedd sbam hysbys.

Aeth Gwasanaethau Gwybodaeth ati i newid y gweinyddion porth e-bost ddechrau mis Mawrth, er mwyn dal y negeseuon sbam cyn iddynt gyrraedd y defnyddwyr.

Y gweinyddion hyn sy’n gyfrifol am anfon negeseuon e-bost ymlaen i’r lleoliad priodol ac adnabod negeseuon sbam. Mae hynny wedi arwain at wella perfformiad danfon negeseuon e-bost ymlaen a’r gallu i adnabod negeseuon sbam ar raddfa fwy o lawer – sy’n golygu fod INSRV yn gallu sicrhau bod systemau e-bost y Brifysgol yn parhau i weithio’n effeithlon.